CRhA Ysgol Glan Conwy
Sian ydw i ac ar hyn o bryd fi ydi’r cadeirydd ar gyfer Cyfeillion Ysgol Glan Conwy. Yr wyf wedi cymryd yr awenau drosodd gan Sally sydd wedi gwneud gwaith gywch dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r Cyfeillion yn grwp bychan ar hyn o bryd o rieni ac yr ydym yn chwilio am wirfoddolwyr newydd i gynnig syniadau codi arian, cefnogaeth a chyngor – sydd yn helpu i godi arian pwysig ar gyfer yr ysgol.
Mae’r Cyfeillion yn ffordd da o gyfarfod pobl, gwneud ffrindiau a chael hwyl tra’n cefnogi cymuned ein ysgol i ddarparu adnoddau ychwanegol i’n plant.
Croeso cynnes i bawb i ymuno gyda ni.
Diolch
Ein nod
Y nod yw cefnogi disgyblion a staff Ysgol Glan Conwy trwy godi arian i helpu i dalu am adnoddau ychwanegol na fyddai’r ysgol fel arall yn gallu eu fforddio. Rydym hefyd yn anelu at gymorthdalu ymweliadau a theithiau addysgol i’w gwneud yn fwy fforddiadwy a hygyrch i ddisgyblion.
Rydym yn griw hapus o rieni, gofalwyr a ffrindiau sy’n mwynhau bod yn rhan o fywyd yr ysgol, gan greu gweithgareddau a phrofiadau i ddisgyblion gan godi cymaint o arian ag sy’n bosibl. Rydym bob amser yn chwilio am syniadau a ffrindiau newyddi i ymuno â ni.
Croeso cynnes i bawb.
Cadeirydd: - Ms Sian Leighton-Jones
Trysorydd: - Mrs Ceri Kenrick
Ysgrifenyddes: - Mr Lee Murray-Howlett