Croeso i’r dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1
Ein nod
- Creu amgylchedd dysgu hapus sy’n hwyl i’n galluogi i ddysgu llawer o sgiliau newydd.
- Gwneud ffrindiau a helpu ein gilydd i ddysgu a thyfu.
Ychydig am ein dosbarth
Mae addysg gorfforol yn cael ei gynnal ar ddyddiau Mawrth ac Iau a byddwn yn mynd i nofio yn nhymor yr haf.
Rydym yn hoffi gweithio y tu allan ac ymarfer ein sgiliau mewn sefyllfaoedd ymarferol.
Rydym yn defnyddio cynllun R.W.I. i helpu gydag adnabod llythrennau ac i ddarllen.
Rydym yn defnyddio Abacus gyda Numicon i’n cefnogi mewn gwaith màths yn y dosbarth.
Yn ogystal â gweithio ar dasgau canolbwyntio, rydym hefyd yn hoffi gweithio’n annibynnol yn y mannau darpariaeth cyffrous, i ymarfer yr holl sgiliau newydd rydym wedi’u dysgu.
Mae ein dosbarth yn le lliwgar a hwyliog, ac rydym oll yn hoffi chwarae ac edrych ar ôl ein gilydd.