Croeso i’r Ysgol Feithrin

Ein nod

Darparu gofal o ansawdd uchel sy’n gwella datblygiad, gofal ac addysg plant cyn ysgol mewn amgylchedd diogel a symbylgar, ble maent yn dysgu trwy brofiadau amrywiol llawn gwobr sydd wedi’u cynllunio’n ofalus, yn ôl y Cyfnod Sylfaen mewn partneriaeth â rhieni / gofalwyr.

Mae croeso i rieni / gofalwyr sydd eisiau cymryd rhan uniongyrchol yn y gweithgareddau a darparu cyfleoedd i wneud hynny, gan gymryd i ystyriaeth natur ieithyddol a diwylliannol Ysgol Glan Conwy a’r cylch.

Ychydig am ein dosbarth

Mae’r Ysgol Feithrin ar agor Llun - Gwener 11.30 a.m. – 2.45 p.m. yn ystod y tymor ac yn derbyn plant 2 oed. Rydym yn cael rhai o’r dosbarth meithrin yn Ysgol Glan Conwy gan ein bod wedi ein lleoli yn yr ysgol.

Cysylltwch â Mrs Annette Watson 0756 365 1892 am wybodaeth bellach